Mae un o’r gweinidogion sy’n anfodlon gyda chytundeb Brexit Theresa May yn dweud ei bod yn dal i obeithio sicrhau newidiadau iddo.

“Mae’n dal i fod amser i wneud mwy i sicrhau’r fargen orau bosibl i Brydain cyn y cyfarfod arbennig o Gyngor Ewrop ar 25 Tachwedd,” meddai Andrew Leadsom. Fel un o gefnogwyr mwyaf pybyr Brexit yn y cabinet, roedd disgwyl iddi hi fod ymhlith y rhai a fyddai wedi ymddiswyddo’r wythnos yma.

“Dw i’n benderfynol o sicrhau’r Brexit mae 17.4 miliwn o bobl wedi pleidleisio drosto,” ychwanegodd.

Ar yr un pryd, mae un o weinidogion y Swyddfa Dramor, Alistair Burt, yn rhybuddio y gallai cefnogwyr mwyaf eithafol Brexit gythruddo rhai i geisio rhwystro Brexit yn llwyr.

“Os bydd cytundeb ar adael a gafodd ei gytuno gan y Llywodraeth a’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei wrthod gan buryddion Brexit, peidiwch â synnu os bydd y consensws ar dderbyn canlyniad y Refferendwm yn chwalu,” meddai.

“Wnaiff y Senedd ddim cefnogi sefyllfa lle na bydd cytundeb.”