Mae 45 o bobl wedi cael eu harestio mewn protestiadau yn Llundain yn galw ar y Llywodraeth wneud mwy i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mae cannoedd wedi bod yn eistedd i lawr ar bump o bontydd yn Llundain yn ystod y dydd fel rhan o brotest gan y group Extinction Rebellion. Mae’n dilyn wythnos o weithredu ledled Prydain.

Meddai Dr Gail Bradbrook, un o drefnwyr y brotest: “Fe allen ni’n hawdd fod yn wynebu newid ym Mhrydain os bydd yr effaith ar y tywydd yn dal fel y mae.

“Mae angen inni fod yn adeiladu gwydnwch yn ein cymunedau, mae angen inni cyrraedd sefyllfa o ddim carbon.

“Does gennym ni ddim dewis, oherwydd natur fydd yn cael y gair olaf ar hyn.”

Dywedodd Heddlu Llundain ddiwedd y prynhawn fod protestwyr yn dal ar bedair o bontydd Llundain – Southwark, Waterloo, Blackfriars a Westminster, a bod nifer o ffyrdd o amgylch y senedd yn San Steffan wedi cau.