Amber Rudd fydd yn cymryd lle Esther McVey yn Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Llywodraeth Prydain.

Fe ymddiswyddodd Esther McVey ddoe am nad oedd yn gallu cefnogi cytundeb Theresa May.

Ym mis Ebrill fe ymddiswyddodd Amber Rudd o’i gwaith yn Ysgrifennydd Cartref Llywodraeth Prydain, yn dilyn cwyno am y modd y bu iddi ddelio gyda’r gwaith o anfon mewnfudwyr anghyfreithlon adref.

A bydd swydd newydd Amber Rudd yn llawn her, o gofio bod yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau yn gyfrifol am y Credyd Cynhwysol.

Mae’r drefn newydd o dalu budd-dal wedi ei feirniadu yn llym am waethygu tlodi.

Fe bleidleisiodd Amber Rudd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ond erbyn hyn mae hi yn cefnogi cytundeb Brexit Theresa May.