Mae Virgin Media ac EE wedi cael dirwy o gyfanswm o £13.3 miliwn gan yn rheoleiddiwr Ofcom  am godi gormod ar bron i 500,000 o gwsmeriaid oedd eisiau gadael eu cytundebau ffon a band eang yn gynnar.

Dywedodd Ofcom bod y ddau gwmni wedi torri rheolau diogelu cwsmeriaid drwy beidio â nodi’n glir y costau fyddai’n rhaid iddyn nhw dalu os oedden nhw’n dod a’u cytundebau i ben yn gynnar.

Roedd ymchwiliad gan y rheoleiddiwr wedi darganfod bod bron i 400,000 o gwsmeriaid EE oedd wedi dod a’u cytundebau i ben yn gynnar wedi gordalu o hyd at £4.3 miliwn.

Ychwanegodd bod bron i 82,000 o gwsmeriaid Virgin Media hefyd wedi talu gormod o tua £2.8 miliwn.

O ganlyniad mae Ofcom wedi rhoi dirwyo o £6.3 miliwn i EE a dirwy o £7 miliwn i Virgin Media.

Mae’r ddau gwmni bellach wedi cytuno i newid eu telerau a gostwng y costau i adael cytundebau’n gynnar, meddai Ofcom.

Ond mae Virgin Media wedi dweud y bydd yn apelio yn erbyn y penderfyniad a’r ddirwy.