Mae wedi bod yn ddiwrnod tanllyd yn San Steffan, wrth i lu o ffigyrau ceidwadol ymddiswyddo tros gynlluniau Brexit Theresa May.

Daw’r ymddiswyddiadau ddiwrnod yn unig wedi i’r Prif Weinidog gyhoeddi bod ei chabinet yn cefnogi ei chynlluniau drafft. A bellach mae yna gryn ddyfalu tros ddyfodol yr arweinydd.

Ar ddiwedd diwrnod o ddryswch a bwrlwm, dyma grynodeb o bwy sydd wedi gadael.

Shailesh Vara

Gweinidog Gogledd Iwerddon, Shailesh Vara, oedd y gweinidog cyntaf i adael mewn protest. “Mae pobol y Deyrnas Unedig yn haeddu gwell,” meddai.

Dominic Raab

Yr ergyd galetaf i Theresa May yw ymddiswyddiad yr Ysgrifennydd Brexit, Dominic Raab a ddwedodd nad yw ei “gydwybod” yn caniatáu iddo gefnogi ei chynllun.

Fe gamodd i’r swydd bum mis yn ôl wedi i’w ragflaenydd, David Davis, ymddiswyddo mewn protest tros drywydd trafodaethau Brexit.

Esther McVey

Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau, Esther McVey, oedd y trydydd aelod o’r Llywodraeth i ymddiswyddo heddiw (Tachwedd 15).

“Dw i methu amddiffyn, a dw i methu pleidleisio o blaid y dêl yma,” meddai yn ei llythyr ymddiswyddiad.

“Fydda i methu wynebu fy etholwyr petaswn yn gwneud hynny. Felly, does gen i ddim opsiwn ond ymddiswyddo o’r Llywodraeth.”

Suella Braverman Suella

Gweinidog Brexit oedd Suella Braverman Suella, a ymddiswyddodd tros gynlluniau wrth gefn Gogledd Iwerddon.

“Nid dyma wnaeth pobol Prydain – na fy etholwyr i – bleidleisio o’i blaid yn 2016,” meddai.

Anne-Marie Trevelyan

Yn ei llythyr ymddiswyddiad hithau, dywedodd Aelod Seneddol Berwick-upon-Tweed bod y ddêl yn “annerbyniol”. Roedd hi’n Ysgrifennydd Preifat Seneddol yn San Steffan.

Dau ysgrifennydd… ac un si

Mae’r Ysgrifennydd Preifat Seneddol, Ranil Jayawardena; ac Is-Gadeirydd y Blaid Geidwadol, Rehman Chishti, hefyd wedi camu o’r neilltu heddiw.

Yn ogystal, mae adroddiadau’n awgrymu bod Nikki Da Costa, Cyfarwyddwr Materion Deddfwriaethol Downing Street, hefydd wedi camu o’r neilltu.