Mae Ceidwadwr blaenllaw o’r garfan sydd fwyaf o blaid Brexit wedi cadarnhau ei fod wedi cyflwyno llythyr o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog i Bwyllgor 1922, oriau ar ôl iddo rybuddio Theresa May ar lawr Tŷ’r Cyffredin y byddai’n gwneud hynny.

Mewn llythyr i gadeirydd y pwyllgor, sy’n cynrychioli Ceidwadwyr y meinciau cefn, dywedodd Jacob Rees-Mogg fod cytundeb drafft Brexit “gyda’r gwaethaf”, a’i fod yn “methu â darparu’r addewidion y gwnaeth y Prif Weinidog” i bobol gwledydd Prydain.

Mae disgwyl i’r llythyr gan gadeirydd y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd fod yn sbardun ar gyfer rhagor o lythyron gan Aelodau Seneddol Ceidwadol sy’n anhapus gyda’r cytundeb.

Os bydd 48 o lythyron yn dod i law Pwyllgor 1922, fe all Theresa May golli awdurdod o fewn ei phlaid ei hun a wynebu her i’w harweinyddiaeth. Ond does dim cadarnhad bod nifer y llythyron wedi cyrraedd y targed hwnnw eto.

Mae’r Prif Weinidog eisoes o dan bwysau yn sgil cyfres o ymddiswyddiadau y bore yma sydd wedi siglo undod ei Chabinet a’i Llywodraeth.

Hyd yn hyn, mae pum aelod o Lywodraeth Prydain wedi ymddiswyddo, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Brexit, Dominic Raab, a’r Ysgrifennydd tros Waith a Phensiynau, Esther McVey.

Mae rhai adroddiadau’n dweud bod Michael Gove, yr Ysgrifennydd Amgylchedd presennol, wedi cael cynnig hen swydd Dominic Raab, a hynny cyn ei wrthod.