Fe fydd y Deyrnas Unedig yn dychwelyd i fod yn “wladwriaeth arfordirol annibynnol” dan gynlluniau Brexit Llywodraeth San Steffan.

Dyna mae’r Prif Weinidog wedi datgan wrth annerch Aelodau Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin ar fore dydd Iau (Tachwedd 15).

Daw’r sylw yn sgil llu o ymddiswyddiadau gweinidogol tros ei chynlluniau i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Theresa May wedi cydnabod bod y broses wedi bod yn “rhwystredig”, ond yn mynnu bod ei chynllun drafft yn “gam mawr ymlaen”.

Ag Aelodau Seneddol yn bloeddio a chwerthin arni, dywedodd mai “gwneud y penderfyniad cywir, nid y penderfyniad hawddaf” yw ei blaenoriaeth.

Gweinidogion

Hyd yma mae pump aelod o Lywodraeth Theresa May wedi ymddiswyddo.

Gweinidog Gogledd Iwerddon, Shailesh Vara, oedd y cyntaf i adael, a thua dwy awr yn ddiweddarach gwnaeth yr Ysgrifennydd Brexit, Dominic Raab, gamu o’r neilltu.

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol tros Waith a Phensiynau, Esther McVey; Ysgrifennydd Seneddol Preifat, Anne-Marie Trevelyan; a’r gweinidog, Suella Braverman; hefyd wedi ymddiswyddo.

Yn ystod anerchiad bore dydd Iau, roedd Ysgrifennydd Gwlad yr Alban, David Mundell, yn absennol o’r fainc blaen.

Roedd Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Andrea Leadsom a’r Ysgrifennydd Gwladol tros Ddatblygu Rhyngwladol, Penny Mordaunt, ar y main flaen er yr oedd sïon yn dew na fyddan nhw yno.