Mae bellach dri aelod o’r Cabinet wedi ymddiswyddo tros cytundeb drafft Brexit, drannoeth y cyfarfod rhwng Theresa May a’i gweinidogion.

Yr Ysgrifennydd tros Waith a Phensiynau, Esther McVey, yw’r diweddaraf i gyhoeddi ei hymddiswyddiad, gan ddweud nad yw’r cytundeb yn “parchu canlyniad y refferendwm”.

“Rydym wedi mynd o ddweud bod dim cytundeb yn well na chytundeb gwael, i ddweud bod unrhyw gytundeb yn well na dim cytundeb,” meddai.

“Gallai ddim amddiffyn, a gallai ddim pleidleisio o blaid y cytundeb.”

Daw cyhoeddiad Esther McVey ychydig oriau ar ôl i ddau weinidog arall ymddiswyddo, sef yr Ysgrifennydd Brexit, Dominic Raab, a Gweinidog Gogledd Iwerddon, Shailesh Vara.

Mae disgwyl i Theresa May wynebu Tŷ’r Cyffredin yn ystod y bore heddiw, lle bydd yn gwneud datganiad ar y cytundeb drafft.