Mae’r Ysgrifennydd Brexit, Dominic Raab, ymhlith y diweddaraf i ymddiswyddo o’r Cabinet.

Mewn datganiad, dywed na allai “cefnogi” termau’r cytundeb Brexit sydd wedi cael ei ffurfio rhwng Llywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.

“Gallai ddim cymodi termau’r cytundeb arfaethedig gyda’r addewidion hynny a gafodd eu gwneud i’r wlad yn ein maniffesto yn ystod yr etholiad cyffredinol diwethaf,” meddai.

“Mae hyn, yn y gwaelod, yn fater o ymddiriedaeth gyhoeddus.”

Fe ddaw ymddiswyddiad Dominic Raab bron i ddwy awr ers i Weinidog Gogledd Iwerddon, Shailesh Vara, adael ei swydd.

Mae yna suon hefyd y gall yr Ysgrifennydd tros Waith a Phensiynau, Esther McVey, adael y Cabinet yn dilyn cyfarfod tyngedfennol rhwng gweinidogion yn Stryd Downing neithiwr (dydd Mercher, Tachwedd 14).

Yn y cyfarfod hwnnw, fe lwyddodd Theresa May i gael cefnogaeth y Cabinet i gyflwyno cytundeb drafft Brexit i’r Senedd. Ond mae wedi dod i’r amlwg y bore yma nad oedd y gefnogaeth honno’n unfrydol.