Mae gweinidog gwladol llywodraeth Theresa May yng Ngogledd Iwerddon wedi ymddiswyddo tros gynllun ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, gan ddweud fod “pobol Prydain yn haeddu gwell”.

Mae Shailesh Vara wedi ymddiswyddo, gan ddweud na fedr o gefnogi cytundeb y Prif Weinidog sydd, meddai, “yn gadael y Deyrnas Unedig mewn ty hanner ffordd”.

Fe ddaw ei ymddiswyddiad wrth i lywydd Cyngor Ewrop, Donald Tusk, gyhoeddi y bydd cyfarfod o arweinyddion Ewrop yn digwydd yn Brwsel ar Dachwedd 25. Bryd hynny, fe fydd trefniadau yn cael eu gwneud yn ffurfiol ac yn derfynol.

“Mae Prydain yn genedl falch, ac mae’n ddiwrnod trist iawn pan ydan ni’n cael ein gorfodi i ddilyn rheolau gwledydd eraill sydd eisoes wedi dangos mai nid ein buddiannau ni ydi eu prif gonsyrn,” meddai Shailesh Vara.

“Mae pobol y Deyrnas Unedig yn haeddu gwell.”