Fe gafodd y Dr E G (Tedi) Millward ei ddisgrifio gan bapurau Lloegr mewn ffyrdd difyr iawn, yn ystod y tymor y treuliodd yn ceisio dysgu Tywysog Charles i siarad Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng y Pasg a’r haf yn 1969.

Roedd, yn ôl y wasg bryd hynny, ‘a dedicated Welsh nationalist’; ‘a passionate Welsh nationalist’; ac ‘a leading light in Plaid Cymru’ – y dyn a oedd newydd dreulio dwy flynedd yn Is-Lywydd ar y blaid, ac a oedd eisoes wedi sefyll fel ymgeisydd drosti yng Ngheredigion.

“Wnes i deimlo’r ddyletswydd i wneud y gwaith,” meddai E G Millward, sydd bellach yn 88 oed ac yn ateb cwestiynau golwg360 trwy ei ferch, Llio Millward, a gyda chymorth darnau o’i hunangofiant, Taith Rhyw Gymro.

“Nid yn unig o ran cyflawni fy swydd fel darlithydd, ond hefyd fel hyrwyddwr yr iaith Gymraeg. Cafodd cyfnod y Tywysog yn Aberystwyth sylw helaeth ym mhapurau Cymru a Lloegr.

“Fy mwriad oedd dangos ei bod yn bosibl dysgu cryn dipyn o Gymraeg mewn byr amser a’i bod yn werth ei ddysgu, ac fe ddefnyddiais y cyfnod hefyd i dynnu sylw’r wasg a’r byd ehangach at sefyllfa’r iaith Gymraeg ac at y frwydr i’w chadw yn fyw ac yn iach.”

Ac o feddwl am y disgrifiadau ohono yn y papurau dyddiol, mae’n cydnabod eu bod yn deitlau “na fyddai erioed wedi cael eu rhoi ar genedlaetholwr o Gymro yn y cyfnod hwnnw” oni bai am y cysylltiad â Charles, ei ddisgybl enwog.