Is-lywydd ac ymgeisydd Plaid Cymru, a oedd ar y pryd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, gafodd y gwaith o ddysgu Cymraeg i’r Tywysog Charles pan ddaeth yn fyfyriwr i’r Coleg Ger y Lli am dymor cyn ei arwisgiad yn 1969.

Mae’r Dr E G (Tedi Millward) bellach yn 88 oed ac yn siarad â golwg360 trwy ei ferch, Llio Millward, a chyda chymorth darnau o’i hunangofiant, Taith Rhyw Gymro a gyhoeddwyd yn 2015.

“Roedd yn gyfnod arbennig o ddiddorol i mi,” meddai. “Roedd brwydr yr iaith yn ffynnu yn y cyfnod, ac ystryw wleidyddol ar ran y Llywodraeth Lafur oedd anfon Tywysog Charles (i Aberystwyth).

“Gobaith yr Ysgrifennydd Gwladol, George Thomas, oedd tawelu ‘gelyn digyfaddawd a llafar’ y rheiny oedd yn gwrthwynebu datganoli ac oedd yn addoli’r teulu brenhinol,” meddai. “Roedd am anwylo pobol Cymru a rhoi taw ar bob protest yn erbyn yr urddo.”

“Perthynas twym a chyfeillgar”

Y peth mwyaf oedd gan y tiwtor a’i ddisgybl yn gyffredin,meddai E G Millward, oedd eu safleoedd mewn rhyfel gwleidyddol.

Ar un ochor, cenedlaetholwr i’r carn yn dysgu Cymraeg i aelod o’r Frenhiniaeth. Ar yr ochor arall, y Tywysog yn cael ei ddefnyddio fel offeryn gwleidyddol i reoli’r sefyllfa wleidyddol ar y pryd.

Mae E G Millward yn datgelu i’r Tywysog rannu “nad syniad y teulu brenhinol” oedd ei anfon i Aber – ond syniad y Llywodraeth yn San Steffan.

“Er gwaethaf y cefndiroedd gwahanol, roedd y berthynas yn un dwym a chyfeillgar er mai perthynas broffesiynol oedd hi.”