Mae darlledwraig, ymgyrchydd iaith a chyn-Uwch Siryf Dyfed yn dweud mai trwy annog pobol ifanc i sefydlu eu busnesau eu hunain, y mae Tywysog Cymru wedi gadael ei farc ar Gymru.

A’r Tywysog Charles yn gyfrifol am sefydlu Ymddiriedolaeth y Tywysog (Prince’s Trust) ac o fod yn noddwr ac yn gefnogwr i nifer o sefydliadau eraill, mae wedi bod o help i gynnal cymunedau hefyd, yn ôl Elinor Jones.

Yn Myddfai yn Sir Gaerfyrddin y mae ei gartref swyddogol yng Nghymru – fferm Llwynywermod – ac yn yr ardal honno y daeth Elinor Jones i ymwneud ag ef gyntaf, a hithau’n Uwch Siryf yn 2014-15.

“Dw i wedi cyfarfod Charles lot o weithie’, a ma’ fe wastad yn mynd i siarad â phobol mae’n teimlo mae’n bwysig siarad â nhw”, meddai Elinor Jones wrth golwg360, a hithau’n ddiwrnod pen-blwydd y tywysog yn 70 oed (dydd Mercher, Tachwedd 14).

“Os yw rhywun wedi dechrau busnes, wedi codi arian, neu wedi cyfrannu i’r gymuned mewn rhyw ffordd, mae’r tywysog wastad yn mynd yn syth atyn nhw. ae’n ddyn hynaws iawn, yn barod i siarad â phobol ac eisiau gwneud gwahaniaeth.

“Mae e wirioneddol yn ddyn cynnes ac yn gweld pwysigrwydd mewn pobol.”

Elusennau

Sefydlodd y Tywysog Charles elusen Prime Cymru yn 2001 mewn ymateb i nifer o achosion o bobol hŷn yn cael trafferth dod o hyd i waith.

“Mae’n elusen sy’n rhoi cyfle bobol dros 50 oed mynd ar ben ffordd i gael gwaith, i ddechrau busnesau, ac mae Charles yn credu yn gryf ynddo,” meddai Elinor Jones wedyn.

“Mae pobol ifanc yn cael y cyfleoedd hyn yn aml, ond mae hwn yn gyfle i’r to henach. Mae hi yno i dangos bod yna help ar gael i bobol hŷn, ac mae hynny yn agos at galon Charles.”

Ar y pegwn arall, mae Ymddiriedolaeth y Tywysog hefyd yn rhoi cymorth i bobol rhwng 11 a 30 oed i drawsnewid eu bywydau. Mae’n cynnig grantiau bach i gefnogi prosiectau cymunedol llawr gwlad. Ers ei sefydlu yn 1976, mae dros 870,000 o bobol ifanc ledled gwledydd Prydain wedi cael cefnogaeth.

“Dyn y bobol yw Charles, sydd wastad eisiau gwneud gwahaniaeth,” meddai Elinor Jones, “ac mae’n gwneud hynny trwy lawer iawn o’i elusennau.”