Mae cyfansoddwr y gân ‘Carlo’ yn dweud mai honno sydd wedi achosi’r “mwyaf o gasineb” tuag ato na’r un gân brotest arall y mae wedi ei chyhoeddi na’i pherfformio mewn hanner canrif,

Ond i Dafydd Iwan, mae’r gân – sy’n cyfeirio at daeogrwydd y Cymry tuag at Charles a’r teulu brenhinol, yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedd hi ar drothwy Arwisgiad Tywysog Cymru yn haf 1969.

“Mae rhyw deimlad byw yn enaid pobol o ryw barchusrwydd annaturiol tuag at y teulu brenhinol,” meddai Dafydd Iwan wrth golwg360.

“Efallai bod hwnnw wedi lleihau dros yr hanner can mlynedd diwethaf… yn sicr tydi pobol ifanc ddim yn cymryd y teulu brenhinol mor ddifrifol ag oedda’ nhw yn y 1960au.”

Ond eto, mae Dafydd Iwan yn dal i ganu ‘Carlo’ mewn gigs heddiw ac mae’n teimlo bod rhaid bod yn barod i wneud hwyl am ben “y syrcas frenhinol” o hyd.

“Mae’n wastraff arian cyhoeddus,” meddai am y tywysog a’i deulu. “Mae o a fi yn byw mewn dau fyd gwahanol, a dw i’n meddwl bod ganddo fo hen ddigon o bres i fyw arno heb bwyso ar bwrs y wlad.

“Ond pob lwc iddo fel person, does gen i ddim math o deimladau cas tuag ato.