Mae llofruddiaethau treisgar yn dal ar gynnydd yn Llundain.

Ar hyn o bryd mae’r cyfanswm deg mis yn 119 i gymharu â 118 yn y ddinas yn ystod blwyddyn gyfan y llyedd. Dydi’r ymosodiadau brawychol ar bont Westminster a Finsbury Park ddim wedi’u cynnwys yn y 119.

Roedd un wythnos yn ystod mis Hydref pan gafodd pump o bobol eu trywanu i farwolaeth.

Ymhlith y 119 llofruddiaeth, roedd 68 o bobol wedi cael eu trywanu, 12 eu saethu, a dau eu lladd gan ddryll a chyllell.

Mae traean o’r achosion, 42, yn cynnwys dioddefwyr rhwng 16 a 24. Roedd 20 ohonyn nhw hefyd yn eu harddegau.