Mae dynes a gafodd gynnig sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi yn gyfnewid am ryw gydag un o aelodau’r tŷ yn annog eraill sydd wedi’u haflonyddu’n rhywiol i wneud eu profiadau’n gyhoeddus.

Daw hyn wedi i’r ymgyrchydd hawliau merched, Jasvinder Sanghera, ddatgelu eu bod wedi cyflwyno cwyn yn erbyn yr Arglwydd Lester o Herne Hill, sy’n gyn-aelod o fainc flaen y Democratiaid Rhyddfrydol yn nhŷ uchaf San Steffan.

Mae’r arglwydd 82 oed yn wynebu’r cyfnod hiraf o waharddiad o Dŷ’r Arglwyddi ar ôl i bwyllgor safonau ac ymddygiad y tŷ ei ganfod yn euog o aflonyddu’n rhywiol ar Jasvinder Sanghera dros ddeng mlynedd yn ôl.

Mae’r Arglwydd Lester wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn, gan fynnu eu bod nhw’n “gelwydd”.

“Mae angen rhoi system ar waith”

Wrth siarad â phapur The Times, mae’r ymgyrchydd yn dweud ei bod hi wedi cyflwyno’r gwyn yn erbyn yr arglwydd er mwyn dangos bod yr hyn a wnaeth iddi hi yn “annerbyniol ac yn ddianrhydedd.”

Mae’r cyhuddiadau’n dyddio’n ôl i 2006, pan oedd hi’n cydweithio â’r Arglwydd Lester yn 2006 ar ddeddfwriaeth a oedd yn ymwneud â phriodasau gorfodol.

Ar yr adeg honno, meddai, roedd yr arglwydd wedi dweud y bydd hi’n cael ei gwneud yn farwnes “o fewn y flwyddyn” pe bai’n cael rhyw gydag e.

Cwyno

Ni chafodd cwyn am y mater ei chyflwyno tan fis Tachwedd 2017, pan oedd yr ymgyrch #MeToo yn ei hanterth.

Ychwanega Jasvinder Sanghera fod ymddygiad yr arglwydd wedi gwneud iddi deimlo yn “gorfforol sâl” yn 2006, ond credai ar y pryd na fyddai neb yn ei chredu pe bai’n gwneud ei phrofiad yn gyhoeddus.

“Mae angen system mewn lle sy’n rhoi’r hyder i ddioddefwyr eraill i gwyno a theimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi wrth wneud hynny,” meddai.

Os bydd Tŷ’r Arglwyddi yn penderfynu cefnogi dyfarniad y pwyllgor safonau bod yr Arglwydd Lester wedi torri’r côd ymddygiad, mae disgwyl iddo gael ei wahardd o’r tŷ tan fis Mehefin 2022.