Mae Theresa May wedi rhybuddio’r Undeb Ewropeaidd nad yw hi am “gyfaddawdu” wrth ffurfio cytundeb Brexit.

Roedd y Prif Weinidog yn annerch gwesteion yng nghinio arbennig Maer Llundain neithiwr (nos Lun, Tachwedd 12), lle dywedodd fod y trafodaethau rhwng Llywodraeth Prydain ac Ewrop yn “tynnu tua’r terfyn”.

Er hyn, ychwanegodd fod yna “faterion sylweddol” yn dal i rwystro cytundeb, gyda’r ffin yng Ngogledd Iwerddon yn un o’r materion hynny.

Pryderon

Pe na bai cytundeb erbyn diwedd y dydd heddiw, fydd dim cynhadledd arbennig yn cael ei chynnal ym Mrwsel y mis hwn er mwyn trafod y manylion.

Mae hyn yn ei dro yn lleihau’r siawns o bleidlais yn San Steffan cyn y Nadolig er mwyn cymeradwyo’r cytundeb.

Yn y cyfamser, mae papur newydd The Daily Telegraph yn adrodd bod rhai aelodau blaenllaw o’r Cabinet yn bwriadu dweud wrth Theresa May fod dim cytundeb yn well na’r hyn sy’n cael ei gynnig gan yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd.

Dywed y papur fod yr aelodau hynny’n cynnwys yr Ysgrifennydd Brexit, Dominic Raab, a’r Ysgrifennydd Amgylchedd, Michael Gove, a gafodd gyfarfod yn swyddfa’r Ysgrifennydd Masnach, Liam Fox, ddoe.

Daw hyn yn sgil adroddiadau bod yna anfodlonrwydd ymhlith aelodau o’r Cabinet sy’n perthyn i’r garfan a bleidleisiodd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn 2016.

Yn ôl manylion a gafodd eu cyhoeddi ddoe, mae’n debyg bod Sajid Javid, Gavin Williamson a Philip Hammond wedi mynegi pryderon am gynllun Chequers ym mis Gorffennaf.