Mae cwpwl a enwodd eu babi ar ôl Hitler wedi eu cael yn euog o fod yn aelodau o grŵp brawychol.

Cafwyd Adam Thomas, 22, a Claudia Patatas, 38, yn euog o fod yn aelodau o’r grŵp adain dde eithafol National Action sydd wedi ei wahardd yn 2016.

Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Birmingham bod y cwpwl o Banbury yn Swydd Rhydychen, wedi rhoi’r enw canol Adolf i’w plentyn, a bod Adam Thomas wedi dweud bod hynny’n dangos eu “edmygedd” o Hitler.

Roedd lluniau a gafwyd hyd iddyn nhw yn eu cartref yn dangos Adam Thomas yn dal ei fab ifanc tra’n gwisgo dillad gwyn y Ku Klux Klan.

Cafwyd Adam Thomas, cyn-swyddog diogelwch gydag Amazon, a Claudia Patatas, sy’n dod o Bortiwgal yn wreiddiol, yn euog ar ôl achos a barodd am saith wythnos.

Roedd Adam Thomas hefyd wedi ei gael yn euog o fod a llyfryn brawychol, a oedd yn cynnwys manylion ynglŷn â sut i greu bomiau.

Roedd trydydd person, Daniel Bogunovic, o Gaerlŷr, hefyd wedi ei gael yn euog o fod yn aelod o’r grŵp.

Clywodd y llys bod Daniel Bogunovic eisoes wedi ei gael yn euog yn gynharach eleni o annog casineb hiliol yn Birmingham.

Roedd tri dyn arall a oedd yn wynebu’r un cyhuddiadau a’r tri, wedi cyfaddef bod yn aelodau o National Action cyn i’r achos ddechrau.

Fe fydd  Darren Fletcher, 28, o Wednesfield, yn y West Midlands, Joel Wilmore, 24, o Stockport, Manceinion, a Nathan Pryke, 26, o March, Swydd Caergrawnt, yn cael eu dedfrydu’n ddiweddarach.