Mae person o’r Deyrnas Unedig wedi marw ar ôl cael ei heintio gyda’r gynddaredd (rabies) tra ym Moroco, meddai swyddogion iechyd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr (PHE) wedi cyhoeddi rhybudd i deithwyr ar ôl i’r person, sy’n ddinesydd yn y Deyrnas Unedig, gael ei heintio gyda’r clefyd ar ôl cael ei frathu gan gath oedd wedi’i heintio.

Nid oes unrhyw fanylion eraill wedi cael eu rhyddhau ynglŷn â’r achos.

Yn ôl PHE does “dim risg” i’r cyhoedd ond fel mesur rhagofal, mae gweithwyr iechyd a phobl oedd mewn cysylltiad agos a’r person, yn cael cynnig brechiad.

Nid yw’r gynddaredd yn cael ei ledu ymhlith anifeiliaid gwyllt nac anifeiliaid anwes yn y DU ond rhwng 2000 a 2017 cafodd pump o bobl o’r DU eu heintio gan y clefyd ar ôl dod i gysylltiad ag anifeiliaid dramor, meddai Iechyd Cyhoeddus Lloegr.