Mae merch wyth oed wedi cael ei lladd ar ôl cael ei tharo gan gar yn Salford.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Monton am oddeutu 10.40yb fore heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 10) yn dilyn y digwyddiad.
Roedd car Vauxhall Corsa glas wedi taro’r ferch, a fu farw yn y fan a’r lle.
Cafodd dyn 24 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.