Mae golwr tîm pêl-droed Leicester City, Kasper Schmeichel wedi talu teyrnged i berchennog y clwb, Vichai Srivaddhanaprabha, a gafodd ei ladd pan blymiodd ei hofrennydd i’r ddaear ger Stadiwm King Power bythefnos yn ôl.

Roedd yn un o bump a fu farw yn y digwyddiad, ynghyd ag aelodau o’i staff a’r ddau beilot.

Mae’r tîm yn chwarae eu gêm gartref gyntaf heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 10) ers y digwyddiad, ac mae Kasper Schmeichel wedi rhannu ei feddyliau yn y rhaglen swyddogol.

“Ro’n i ar ymyl y cae yn sefyll y noson honno ac yn sgwrsio gyda rhai o’r rheiny oedd agosaf ato fe, ac roedden ni’n chwifio wrth iddo fe adael y ddaear, fel ro’n i bron bob tro yn ei wneud ar ôl gemau cartref.

“Bydd yr hyn ddigwyddodd nesaf yn aros gyda fi am byth. Mae wedi ailchwarae yn fy meddwl bob munud ers hynny, a dw i’n difaru na allwn i fod wedi gwneud mwy.

“Sefais i am amser hir ger tâp yr heddlu yng nghefn y maes parcio ar noson y 27ain ac unwaith eto’r bore canlynol. Roedd dagrau’n llifo i lawr fy wyneb.

“Fe wnaeth i fi deimlo’n ddeg troedfedd o daldra pan o’n i yn ei gwmni.

“Fe roddodd i fi deimlad o ddiogelwch a dim ots beth oedd yn digwydd, roedd popeth yn mynd i fod yn iawn.

“Do’n i wir ddim am adael, allwn i ddim! Ro’n i am fod yn agos ato fe. Mae’n ymddangos mor anghywir mai dyma sut fyddai’r fath fywyd mawr yn dod i ben.”

Fideo

Cafodd fideo o Vichai Srivaddhanaprabha ei dangos cyn eu gêm yn erbyn Burnley heddiw, gan gynnwys ei lwyddiant wrth arwain y tîm i dlws Uwch Gynghrair Lloegr.

Roedd ei fab a’r is-gadeirydd, Aiyawatt ar y cae cyn y gêm i osod blodau ar gyfer Sul y Cofio.

Mae’r chwaraewyr yn gwisgo crysau yn dwyn enw Vichai Srivaddhanaprabha ar y cefn, ac fe arweiniodd nifer o chwaraewyr dorf o oddeutu 10,000 o bobol o ganol dinas Caerlŷr i’r stadiwm cyn y gêm.

Mae teyrngedau’r rheolwr Claude Puel a nifer o’r chwaraewyr yn ymddangos yn y rhaglen swyddogol.

Mae nifer o gyn-chwaraewyr a chyn-reolwyr hefyd yn y stadiwm ar gyfer y gêm.