Mae hysbyseb Nadolig archfarchnad Iceland, sy’n tynnu sylw at effaith olew palmwydd ar ddatgoedwigo, wedi cael ei wahardd am fod yn rhy wleidyddol.

Yr actores Emma Thompson sy’n adrodd yr hanes yn yr hysbyseb sydd wedi’i gynhyrchu gan Greenpeace, ac mae’n cynnwys cartŵn o orangutan.

Mae’r rheoleiddiwr hysbysebion Clearcast yn “gofidio” nad yw’r hysbyseb yn “cydymffurfio” â deddfau hysbysebion gwleidyddol.

Ers gwahardd yr hysbyseb, mae fideo’r archfarchnad wedi cael ei rannu filoedd o weithiau ar wefannau cymdeithasol.

‘A wnewch chi ein helpu i rannu’r stori?’

“Wnewch chi ddim gweld ein hysbyseb Nadolig ar y teledu eleni, oherwydd fe gafodd ei wahardd,” meddai’r archfarchnad ar Twitter. “Ond rydyn ni am rannu stori Rang-tan gyda chi… A wnewch chi ein helpu i rannu’r stori?”

Mae’r hysbyseb yn adrodd am effaith olew palmwydd ar ddatgoedwigo yn dilyn penderfyniad yr archfarchnad i dynnu cynnyrch â’r olew ynddo oddi ar ei silffoedd erbyn diwedd y flwyddyn.

Nid darlledu’r hysbyseb ar y teledu oedd y bwriad gwreiddiol, meddai Greenpeace, a hynny am resymau ariannol ac anhawster cael caniatâd.

Mae Iceland wedi gwario £500,000 ar yr hysbyseb, ac maen nhw’n mynnu eu bod nhw wedi ceisio cael caniatâd i’w ddarlledu ar y teledu dros gyfnod y Nadolig.