Mae dynes 37 oed wedi cael ei llosgi’n ddifrifol ar ôl i ddyn daflu sylwedd cyrydol i’w hwyneb yng Nghaeredin.

Fe ddigwyddodd wrth iddi ateb y drws yn ne-ddwyrain y ddinas nos Wener (Hydref 9).

Cafodd hi anafiadau i’w hwyneb a’i gwddf, ac mae hi’n dal i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Mae’r heddlu’n chwilio am ddyn oedd yn gwisgo tracwisg tywyll, menig ac esgidiau tywyll.

Maen nhw’n credu bod y ddynes wedi cael ei thargedu’n fwriadol.

Mae’r unigolyn maen nhw’n chwilio amdano’n cael ei ddisgrifio fel dyn yn ei 20au cynnar, 5’11” ac o gorffolaeth denau.