Mae cynlluniau Brexit Prif Weinidog Prydain, Theresa May dan bwysau unwaith eto yn dilyn ymddiswyddiad Jo Johnson, brawd Boris, o’i swydd yn Weinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Prydain.

Ac mae’r DUP bellach yn rhybuddio y gallen nhw wyrdroi eu cefnogaeth i’r cynlluniau.

Yn dilyn ymddiswyddiad Jo Johnson, cafodd Theresa May ei beirniadu gan aelodau seneddol ar y ddwy ochr i ddadl Brexit.

Mae Jo Johnson wedi rhybuddio mai’r dewis rhwng cynlluniau Theresa May a cherdded i ffwrdd heb gytundeb yw’r “methiant” mwyaf yn hanes gwleidyddiaeth Prydain ers argyfwng y Suez yn 1956.

Mae ymddiswyddiad Jo Johnson wedi arwain rhai i gredu y gallai rhagor o aelodau’r Cabinet ymddiswyddo dros yr wythnos nesaf.

Parch

Wrth i’r Aelod Seneddol Ceidwadol Anna Soubry ddweud bod ganddi “barch enfawr” at Jo Johnson, mae ei chydweithiwr Mark Francois wedi rhybuddio y gallai rhagor o aelodau seneddol ddilyn yn ôl troed Jo Johnson.

“Pan gawn ni’r cytundeb terfynol, ac mae’n teimlo fel pe na bai hynny’n bell i ffwrdd, fe fydd rhaid i weinidogion y Cabinet edrych yn ddwfn i’w calonnau a gweld a allan nhw ei gefnogi neu beidio,” meddai Mark Francois wrth y BBC.

“Ac os na allan nhw, oherwydd eu bod nhw’n credu ei fod yn gytundeb gwael i’r wlad, yna byddai’n rhaid iddyn nhw ymddiswyddo, yn gwbl anrhydeddus.”

Mewn erthygl yn y Daily Telegraph, mae arweinydd y DUP, Arlene Foster yn egluro y bydd ei phlaid yn gwrthwynebu cynlluniau presennol Theresa May tros ffiniau Iwerddon.

Ac mae hi’n dweud nad yw ymateb Theresa May i’w phryderon yn ddigonol.

“Os mai’r hyn sy’n cael ei amlinellu yn yr ymateb yw’r math o gytundeb y mae’r Prif Weinidog yn bwriadu dod iddo, yna fyddai’r DUP ddim yn gallu cefnogi cytundeb sy’n ynysu Gogledd Iwerddon oddi wrth weddill y Deyrnas Unedig,” meddai.

Eglurhad Jo Johson

Wrth amlinellu ei benderfyniad i ymddiswyddo o Gabinet Llywodraeth Prydain, mae Jo Johnson wedi rhybuddio na fydd cytundebau masnach “ystyrlon” wedi Brexit.

“Roedd i fod yn fater o ddyfodol newydd dewr fel economi heb reoleiddio. Ond rydym yn cytuno i’r llyfr rheolau cyffredin ar safonau a iechyd a diogelwch, yr amgylchedd ac yn y blaen. Mae’n hollol ddigyswllt.”

Ac mae Jo Johnson wedi cefnogi penderfyniad Boris, y cyn-Weinidog Tramor, i adael y Llywodraeth.

“Efallai nad oedden ni’n gytûn ynghylch Brexit, ond rydym yn unedig yn ein gofid yn ddeallusol ac yn wleidyddol ynghylch yr anallu i amddiffyn safbwynt y DU.”