Mae Pennaeth Lluoedd Arfog Prydain yn “anghyfforddus” gydag ymchwiliad i ymddygiad cyn-filwyr Prydain yng Ngogledd Iwerddon.

Yn ystod cyfnod y Trafferthion cafodd mwy na 3,500 o bobol eu lladd, ac mae ymchwiliad i honiadau bod milwyr Prydain yn gyfrifol am lofruddio.

Mae’r Uned Ymchwilio Hanesyddol yn edrych ar achosion o lofruddio lle nad oes neb wedi eu herlyn.

Ond mae un o benaethiaid y Lluoedd Arfog yn teimlo’n “anghyfforddus” gyda’r posibilrwydd o ddwyn milwyr o flaen eu gwell.

Fe fu Syr Nick Cater draw i Ogledd Iwerddon yn ystod y Trafferthion, ac mae yn credu na ddylid ail-agor achosion ddigwyddodd mwy nag 20 mlynedd yn ôl.

“Mae hwn yn fater gwleidyddol, ac felly yn rhywbeth sydd angen i wleidyddion ddelio ag o,” meddai Syr Nick Carter.

“Ac wrth gwrs, mae’n gysylltiedig â’r broses heddwch. Felly, unwaith eto, mae’n fater gwleidyddol.”

Ac mae’r Prif Weinidog Theresa May wedi labelu’r drefn bresennol o geisio cyfiawnder i’r rhai fu farw yn y Trafferthion yn “ddiffygiol”, oherwydd ei “fod yn canolbwyntio gormod” ar gyn-aelodau’r lluoedd arfog a’r heddlu.