Mae dyn sydd wedi’i gyhuddo o fod yn gyfrifol am farwolaeth babi tair wythnos oed, wedi gwadu gwneud niwed iddo.

Mae Samuel Davies, 24, o Southampton yn sefyll ei brawf yn Llys y Goron Winchester, wedi’i gyhuddo o achosi neu ganiatau marwolaeth Stanley Davis.

Mae’r dyn hefyd wedi’i gyhuddo ynghyd â Roxanne Davis, 30, mam y babi.

Mae’r llys wedi cael clywed i’r babi farw o ganlyniad i dorri’i benglog a achosodd waedlif ar yr ymennydd, ac yntau’n ddim ond 24 diwrnod oed ar Fawrth 28 y llynedd.

Roedd ei asennau wedi’u torri mewn 32 o lefydd, ac roedd ei freichiau a’i goesau wedi’u torri mewn naw lle.

Mae Samuel Davies, nad oedd yn dad i’r babi, yn gwadu achosi’r anafiadau.