Gallai codi treth ar gig coch achub hyd at 6,000 o fywydau bob blwyddyn, a lleihau costau gofal iechyd o £30.7bn erbyn 2020, yn ôl ymchwilwyr.

Mae lle i gredu y gallai’r fath dreth arwain at achub 220,000 o fywydau erbyn 2020, wrth i ymchwilwyr edrych ar y cyswllt rhwng bwyta cig coch a chynnydd mewn cyflyrau fel afiechyd y galon, strôc, clefyd siwgwr a chanser.

Mae’r ymchwil yn seiliedig ar faint o dreth fyddai ei angen er mwyn talu am gostau gofal iechyd ar gyfer salwch sy’n gysylltiedig â bwyta cig coch mewn 149 o wledydd ar draws y byd.

Maen nhw’n dweud y gallai bwyta cig coch fod wedi cyfrannu at 2.4 miliwn o farwolaethau blynyddol erbyn 2020, a hynny ar gost fyd-eang o £219bn.

Er mwyn datrys y sefyllfa hon, byddai angen cynnydd o 14% ym mhris cig coch yng ngwledydd Prydain, a chynnydd o 79% ym mhris cig wedi’i brosesu.

Rhybudd i lywodraethau’r byd

“Mae faint o gig coch a chig wedi’i brosesu sy’n cael ei fwyta yn mynd y tu hwnt i’r lefelau sy’n cael eu hargymell yn y rhan fwyaf o wledydd incwm uchel a chanolig,” meddai’r prif ymchwilydd, Dr Marco Springmann o Brifysgol Rhydychen.

“Mae hyn yn cael effaith sylweddol, nid yn unig ar iechyd personol, ond hefyd ar systemau gofal iechyd, sy’n cael eu hariannu gan drethdalwyr mewn nifer o wledydd, ac ar yr economi, sy’n colli’r gweithlu oherwydd salwch a gofalu am aelodau’r teulu sy’n mynd yn sâl.

“Gobeithio y bydd llywodraethau’n ystyried cyflwyno treth iechyd ar gig coch a chig wedi’i brosesu fel rhan o ystod o fesurau i wneud penderfyniadau iachus a chynaladwy’n haws i fwytawyr cig.”

Peryglon cig coch

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud bod perygl o ganser o fwyta cig eidion, cig oen a phorc wedi’u prosesu, a’i bod yn “debygol” fod perygl o fwyta’r cigoedd hynny heb eu prosesu.

Mae cig coch hefyd yn cael ei gysylltu ag afiechyd y galon, strôc a chlefyd siwgwr Math 2.

Fe allai atal 5,920 o farwolaethau yng ngwledydd Prydain, meddai ymchwilwyr, a hynny’n gostwng canran y marwolaethau sy’n gysylltiedig â bwyta cig o 15.6%.

Mae nifer o gyrff, gan gynnwys Cronfa Ymchwil Canser y Byd a’r Gymdeithas Figan wedi croesawu casgliadau’r ymchwil.