15 o blant mor ifanc â 12, a chwech o oedolion wedi’u darganfod ar gefn lori yn ceisio mynediad i wledydd Prydain yn Sussex.
Mae lle i gredu eu bod yn ffoaduriaid o Fietnam, a bod y lori wedi cael ei hatal wrth gyrraedd Newhaven o Dieppe.
Fe fu’n rhaid i’r plant gael triniaeth feddygol yn sgil yr oerfel, ac maen nhw bellach yn derbyn gofal gan y gwasanaethau cymdeithasol.
Cafodd Andrut Mihai Duma, 29, o Rwmania, ei arestio a’i gyhuddo o gynorthwyo mynediad anghyfreithlon i wledydd Prydain.
Fe fydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Lewes ar Dachwedd 26.
Mae dyn 18 oed a dynes 27 oed wedi’u symud o wledydd Prydain, tra bod dynes a thri dyn yn y ddalfa mewn canolfan i ffoaduriaid.