Plentyn yn chwarae
Mae plant yn tyfu i fyny yn rhy gyflym oherwydd cyfuniad o brofion yn yr ysgol, hysbysebu, gofal gwael a dibyniaeth rhieni ar gemau cyfrifiadur a theledu.

Dyna farn dros 200 o athrawon, academyddion, awduron ac arweinwyr elusennau sydd wedi ysgrifennu at y Daily Telegraph er mwyn gallu am “atal erydiad plentyndod”.

Mae’r grŵp yn cynnwys y nofelydd Philip Pullman, y niwrnowyddonydd Susan Greenfield, a’r athro economeg yr Arglwydd Layard.

“Mae ein plant ni dan bwysau cynyddol i brynu, maen nhw’n dechrau addysg ffurfiol yn gynt na’r cyfartaledd Ewropeaidd, ac maen nhw’n treulio rhagor o amser y tu mewn o flaen sgriniau teledu, yn hytrach nag y tu allan,” meddai’r llythyr.

“Mae’n bryd gwneud rhywbeth am hyn.”