Mae Ysgrifennydd Cymunedau San Steffan, James Brokenshire yn dweud ei fod yn “difaru” gweld y Gweinidog Chwaraeon, Tracey Crouch yn ymddiswyddo yr wythnos ddiwethaf.

Camodd hi o’r neilltu ddydd Iau yn dilyn oedi o chwe mis wrth gyflwyno uchafswm cyfreithlon ar fetio ar beiriannau.

“Mae’n amlwg yn flin iawn gen i weld Tracey yn gadael y llywodraeth,” meddai James Brokenshire.

“Mae hi’n gydweithwraig ragorol, rhywun sydd wedi gweithio’n galed ar hyn ac sy’n angerddol iawn am y materion mae hi’n credu ynddyn nhw.”

Roedd disgwyl i’r rheoliadau newydd ddod i rym erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf ond erbyn hyn, mae’n debygol na fydd hynny’n digwydd tan fis Hydref.

Ond Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn mynnu na fu oedi yn y broses.