Mae Scotland Yard wedi cyhoeddi bod ymchwiliad troseddol wedi dechrau i honiadau o droseddau casineb gwrth-Semitaidd o fewn y Blaid Lafur.

Daw’r ymchwiliad ar ôl i ddogfen fewnol gan y Blaid Lafur ddod i law’r orsaf radio LBC.

Mewn datganiad dywedodd Heddlu’r Metropolitan bod y ddogfen wedi cael ei rhoi i Gomisiynydd yr heddlu ar 4 Medi yn dilyn cyfweliad radio gyda LBC yn Llundain.

“Roedd yr achwynydd yn honni bod y dogfennau yn cynnwys tystiolaeth o droseddau casineb gwrth-Semitaidd. Mae’r cynnwys wedi cael ei archwilio gan swyddogion arbenigol.

“Mae ymchwiliad troseddol wedi dechrau i rai o’r honiadau sy’n cael eu gwneud yn y dogfennau.”

Ychwanegodd y datganiad eu bod yn ceisio cael cyngor ynglŷn â’r ymchwiliad gan Wasanaeth Erlyn y Goron.

Dywed yr heddlu nad fyddan nhw’n gwneud sylwadau pellach am fanylion yr ymchwiliad.

“Cyd-weithio”

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur nad yw’r heddlu wedi cysylltu â nhw ond eu bod yn barod i gyd-weithio gyda’r ymchwiliad.

“Mae gan y Blaid Lafur system gadarn ar gyfer ymchwilio i gwynion am honiadau o dorri rheolau’r Blaid Lafur gan ei haelodau.

“Os yw rhywun yn teimlo eu bod wedi dioddef trosedd fe ddylen nhw fynd at yr heddlu i adrodd hynny yn y ffordd arferol.”

“Dyletswydd”

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Today ar BBC Radio 4, dywedodd Comisiynydd Heddlu’r Metropolitan, Cressida Dick, nad yw’r Blaid Lafur ei hun o dan ymchwiliad.

“Dy’n ni ddim yn mynd i ymchwilio i’r Blaid Lafur. Fe fydden ni wastad eisiau i sefydliadau a phleidiau gwleidyddol allu rheoli eu hunain.

“Ond, os yw rhywun yn rhoi deunydd i ni ac yn dweud y gallai fod yn droseddol mae gynnon ni ddyletswydd i edrych mewn i hynny ac nid ei ddiystyru.

“Ry’n ni wedi bod yn asesu’r deunydd a gafodd ei roi i mi, mewn gorsaf radio o bobman, tua deufis yn ôl ac ry’n ni nawr yn ymchwilio i’r deunydd oherwydd mae’n ymddangos y gallai trosedd fod wedi’i chyflawni.

“Ry’n ni’n cydweithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron ac rwy’n gobeithio y gallwn ni glirio hyn i fyny yn gyflym iawn.”