Mae tywydd cynnes a nosweithiau trofannol ar gynnydd yn y Deyrnas Unedig oherwydd newid hinsawdd, yn ôl adroddiad gan y Swyddfa Dywydd.

Mae’r adroddiad, sy’n canolbwyntio ar dywydd eithafol, yn dangos bod y cyfnodau pan mae’r tymheredd yn llawer uwch na’r hyn sy’n gyffredin am yr adeg o’r flwyddyn, wedi mwy na dyblu rhwng 1961 a 1990 a 2008 i 2017.

Mae dyddiau poeth yn ystod yr haf yn poethi, gyda’r diwrnod poethaf bob blwyddyn yn ystod y degawd diwethaf ar gyfartaledd 0.8C yn gynhesach na’r diwrnod poethaf bob blwyddyn yn y cyfnod 1961-1990.

Hefyd yn ol yr adroddiad, nid yw’r tywydd mor oer ag y mae wedi bod yn y gorffennol gyda’r tymheredd isaf 1.7C yn uwch yn y degawd diwethaf nag oedd yn  y tri degawd hyd at 1990.

Mae nosweithiau trofannol, lle dyw’r tymheredd ddim yn gostwng o dan 20C (68F) yn dal yn anghyffredin yn y Deyrnas Unedig ac yn bennaf yn ne Lloegr. Ond mae’n debyg y byddan nhw’n dod yn fwy cyffredin yn y dyfodol wrth i’r newid hinsawdd ddod yn fwy amlwg.