Mae’r Daily Express yn darogan y gallai’r gôst o siopa am fwy gwympo 30% ddydd Llun wrth i Tesco ostwng eu prisiau.

Neithiwr cyhoeddodd cwmni archfarchnad mwyaf Prydain ei fod yn mynd i ofyn llai am 3,000 o eitemau hanfodol gan gynnwys llefrith, caws, bara, pasta, ffrwyth a llysiau.

Mae disgwyl i archfarchnadoedd eraill wneud yr un fath, yn ôl y Daily Express.

Mae chwyddiant prisiau bwyd wedi codi 6.1% dros y flwyddyn ddiwethaf.