Mae disgwyl i Philip Hammond gyhoeddi cynnydd o £2 biliwn ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl wrth iddo gyhoeddi ei Gyllideb heddiw.

Mae’n debyg mai dyma fydd Cyllideb olaf y Canghellor cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn dilyn wythnosau o wrthdaro dros Brexit, fe fydd Aelodau Seneddol Ceidwadol yn gobeithio y bydd y Canghellor yn codi moral y blaid yn ei ddatganiad ddydd Llun, 29 Hydref.

Mae disgwyl iddo ymateb i gyhoeddiad Theresa May yn ei haraith yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol bod y cyfnod o lymder yn dod i ben.

Ond fe rybuddiodd dros y penwythnos bod y mesurau y bydd yn eu cyhoeddi yn dibynnu ar ganlyniad llwyddiannus y trafodaethau Brexit ym Mrwsel.

Yn sgil dim cytundeb gyda’r UE, dywedodd y byddai’n cael ei orfodi i roi ei gynlluniau o’r neilltu a chyflwyno cyllideb frys. Ond ychwanegodd ei fod yn hyderus y bydd cytundeb gyda Brwsel.

Ffyrdd

Mae disgwyl iddo gyhoeddi £28.8 biliwn ar gyfer ffyrdd dros gyfnos o bum mlynedd, ac arian ychwanegol ar gyfer band llydan, gofal cymdeithasol a’r lluoedd arfog, yn ogystal â help ar gyfer siopau bach.

Fe fydd yr arian ychwanegol ar gyfer iechyd meddwl yn cael ei ddefnyddio i dalu am gymorth ym mhob adran Damweiniau ac Achosion brys mewn ysbytai, yn ogystal â rhagor o ambiwlansys a thimau iechyd meddwl mewn ysgolion.

Mae Philip Hammond hefyd wedi awgrymu ei fod yn barod i ildio i bwysau gan aelodau meinciau cefn y Blaid Geidwadol i ddarparu arian ychwanegol i helpu gyda throsglwyddiad  Credyd Cynhwysol.

Ond mae’r Blaid Lafur yn dweud ei bod yn amheus o’r cynlluniau, gan awgrymu bod y Canghellor yn ailgylchu cyhoeddiadau blaenorol.

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd rhagor o arian yn dod i Gymru yn sgil cyhoeddiad y Canghellor heddiw.