Mae teyrngedau lu o bedwar ban byd wedi cael eu rhoi i berchennog clwb pêl-droed Leicester City a fu farw mewn damwain hofrennydd ddydd Sadwrn.

Roedd Vichai Srivaddhanaprabha ymhlith pump o bobol gafodd eu lladd ar ôl i’r hofrennydd ddisgyn i’r ddaear tu allan i Stadiwm King Power yn fuan ar ôl i’r tîm chwarae West Ham.

Wrth roi teyrnged i’r cadeirydd, dywedodd clwb Leicester City fod Vichai Srivaddhanaprabha yn “ddyn caredig a hael” a bod y clwb “yn deulu o dan ei arweinyddiaeth.”

Roedd y biliwnydd wedi helpu Leicester City i gyrraedd yr Uwch Gynghrair yn 2016, gan fuddsoddi miliynau o bunnau yn y clwb.

Mae’r gôl-geidwad Kasper Schmeichel a oedd, yn ôl adroddiadau, wedi gweld y trychineb, fod y perchennog yn ddyn “gweithgar, angerddol, caredig a hael tu hwnt” a’i fod wedi “newid pêl-droed am byth”.

Mae clybiau pêl-droed o bedwar ban byd hefyd wedi rhoi teyrngedau iddo ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ychwanegodd Cyngor Dinas Caerlŷr bod Vichai Srivaddhanaprabha wedi “gwneud cyfraniad aruthrol” i’r ddinas, gan ychwanegu “hoffwn dalu teyrnged i’r holl bethau mae o wedi gwneud”.

Mae ymchwiliad ar y gweill i achos y ddamwain hofrennydd.