Roedd buddsoddwyr yn disgwyl gweld colledion pellach heddiw, wedi i’r farchnad stoc ddisgyn tu hwnt i bob rheolaeth ddoe, ond mae’n ymddangos bod y gwymp wedi arafu am gyfnod o leia’.

 Yn ôl Chris Weston, sy’n fasnachwr gydag IG Markets, mae’n “anffodus i’r farchnad, ond mae diffyg arweiniad gwleidyddol yn ymddangos fel un o’r prif resymau pam nad ydyn ni’n gallu gwneud unrhyw ddatblygiadau mawr i ddatrys y broblem yma.”

 Neithiwr fe ymunodd y Prif Weinidog David Cameron ag arweinydd pump o wledydd eraill yr G20 erm wyn galw am weithredu penodol a chydweithredol gan rai o wledydd blaenllaw y byd er mwyn helpu adfer yr economi ryngwladol.

Mewn llythyr agored gan arlywydd presennol Ffrainc a’r G20, Nicolas Sarkozy, mae’n galw ar wledydd Ewrop i weithredu ar frys i ddatrys y creisis yno, wrth i Groeg ddal i droedio dibyn eu dyledion, gyda methdalu’n eu denu.

Colledion anferthol

 Wrth i’r marchnadoed yn Ewrop sicrhau cyfnod bregus iawn o sefydlogrwydd, mae arbenigwyr yn darogan rhagor o gwymp oni bai bod gwleidyddion yn argyhoeddi’r marchnadoedd bod mwy o gytundeb dros ffordd i ddelio â phroblem dyled Ewrop, a’r byd.

 Collodd marchnad stoc Prydain, y FTSE 100, 4.7% o’i gwerth ddoe wedi i Gronfa Ffederal yr Unol Daleithiau rybuddio am “beryglon sylweddol” y rhagolygon economaidd.

Ond y bore yma fe agorodd y marchnadoedd 60 pwynt – neu 1% – yn uwch na phrynhawn ddoe, cyn colli’r cyfan eto, a setlo wedyn o gwmpas 20 pwynt yn uwch na phrynhawn ddoe.

 Mae hefyd disgwyl i’r Dow Jones yn Wall Street agor ychydig yn uwch heddiw, ar ôl colli 6% o’i werth dros y deuddydd diwethaf.

Yn y cyfamser, fe gaeodd yr Hang Seng yn Honh King 1.9% yn is ddoe, ar ôl disgyn 5% y diwrnod cynt.