Mae undeb gweithwyr sector gyhoeddus mwya’ Ynysoedd Prydain wedi mynnu na fydd yn cytuno i’r gofynion ar i’w aelodau weithio’n hwy a chyfrannu mwy at gost eu pensiwn.

 Yn cynrychioli 1.1 miliwn o weithwyr, mae Unsain wedi ymosod ar gynlluniau newydd cynghorau sir sy’ wedi eu cynnig er mwyn ceisio osgoi sdreicio yn nes ymlaen eleni.

“Rydan ni wedi dweud wrth y cyflogwyr na fedrwn ni gytuno gyda’r cynlluniau hyn sy’n argymell gwneud dim mwy na chodi £900 miliwn o dreth ar aelodau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, er mwyn y Llywodraeth yn y tymor byr,” meddai Heather Wakefield, Swyddog Cenedlaethol Unsain.

Mae sawl undeb, sy’n cynrychioli gweithwyr cynghorau sir ac athrawon a gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd, yn bwriadu cynnal pleidlais gyda’r bwriad o streicio ar y cyd.

Ddoe roedd Undeb y Prifathrawon yn cyhoeddi y bydd ei aelodau yn fotio o ddydd Iau nesaf ymlaen ar y posibilrwydd o streicio am y tro cyntaf yn ei 114 o flynyddoedd mewn bodolaeth.

Mae’r Undeb yn cynrychioli 28,500 o brifathrawon a dirprwyon yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.