Mae tri o bobol wedi cael eu harestio ar ôl i ddyn 47 oed gael ei drywanu i farwolaeth yn Llundain nos Wener (Hydref 27).

Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo yn ardal Hendon yng ngogledd Llundain, ond bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Mae dynes 43 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddio, tra bod dyn 21 oed a dynes 23 oed hefyd yn y ddalfa yn dilyn y digwyddiad.

Roedd y pedwar yn adnabod ei gilydd.