Mae disgwyl i’r Arlywydd Michael D Higgins gael buddugoliaeth ysgubol yn etholiad arlywyddol y wlad, gan sicrhau ail dymor wrth y llyw.

Dechreuodd y broses o gyfri’r pleidleisiau mewn 28 o orsafoedd pleidleisio am 9 o’r gloch fore heddiw (dydd Sadwrn, 27 Hydref).

Mae rhagolygon yn awgrymu bod y dyn 77 oed wedi ennill mwy na 56% o’r bleidlais.

Yn ôl RTE, enillodd e 58.1% o bleidleisiau dewis cyntaf, ond mae’r Irish Times yn dweud bod y ffigwr yn nes at 56%.

Cyn-seren fersiwn Iwerddon o’r gyfres deledu Dragons’ Den, Peter Casey sy’n ail, meddai’r polau piniwn, gydag oddeutu 20% o bleidleisiau dewis cyntaf. Mae lle i gredu bod ei boblogrwydd wedi tyfu ar ôl iddo feirniadu’r gymuned deithiol a phobol sy’n dibynnu ar y wladwriaeth am gymorth ariannol.

Pe bai’n ennill, bydd Michael D Higgins wrth y llyw am saith mlynedd arall. Mae angen 56.3% o’r bleidlais arno er mwyn sicrhau’r fuddugoliaeth fwyaf erioed mewn etholiad arlywyddol, gan guro record Eamon de Valera yn 1959.

Gyrfa

Michael D Higgins yw nawfed arlywydd Iwerddon, ar ôl cael ei ethol am y tro cyntaf yn 2011.

Fe allai fod y pumed arlywydd i sicrhau ail dymor wrth y llyw ar ôl Sean T O’Kelly, Eamon de Valera, Patrick Hillery a Mary McAleese.

Cafodd Douglas Hyde ei ethol yn arlywydd cyntaf Iwerddon yn 1938.

Mae disgwyl i’r canlyniad gael ei gyhoeddi heno (nos Sadwrn, 27 Hydref).