Mae tad sydd wedi ei gyhuddo o fod yn aelod o griw o frawychwyr asgell dde, wedi cyfaddef wrth reithgor ei fod yn hiliol ac wedi enwi ei fab yn Adolf.

Mae Adam Thomas, 22 oed, o flaen ei well yn Llys y Goron Birmingham ar gyhuddiad o fod yn aelod o National Action, criw o frawychwyr sydd wedi eu gwahardd.

Ac mae dau arall yn sefyll eu prawf ar yr un cyhuddiad: Claudia Patatas, 38, sy’n gariad i Adam Thomas ac yn fam i’w blentyn; a Daniel Bogunovic, 27, o Gaerlŷr.

Adolf yw enw canol mab Adam Thomas, ac mae wedi derbyn bod hynny yn adlewyrchu’r ffaith ei fod yn “edmygu” Adolf Hitler.

Ond er iddo gyfaddef ei fod yn hiliol, mae Adam Thomas yn gwadu ei fod yn aelod o National Action, y criw gafodd eu gwahardd gan yr Ysgrifennydd Cartref yn 2016.