Mae Debenhams wedi cyhoeddi y bydd hyd at 50 o’i siopau yn cau dros y pum mlynedd nesaf, ac y gallai 4,000 o  swyddi fynd.

Mae ffigurau ariannol y cwmni yn dangos colled o £491.5m yn ystod y flwyddyn hyd at Fedi 1. At hynny, mae gwerth asedau’r cwmni wedi gostwng £512.4m.

Fel rhan o’r newidiadau, mae pennaeth y cwmni, Segio Bucher, eistiau torri’n ôl £130m o gostau.

Fe gwympodd refeniw y cwmni o 2.3%, a gwerthiant o 1.8% i £2.9m. Dyma’r golled fwyaf yn hanes siopau Debenhams.