Fe fydd adroddiad ar gyflogau’r BBC yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau ar ddiwedd ymchwiliad sydd wedi para rhai misoedd.

Materion cyflogau cyfartal a’r bwlch cyflog rhwng dynion a menywod oedd prif ffocws yr ymchwiliad gan Bwyllgor Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan.

Cafodd y manylion am y cyhoeddiad eu datgelu ar dudalen Twitter y pwyllgor seneddol, yn nodi y byddai’n cael ei gyhoeddi am ganol nos heno (Hydref 25).

Cefndir

Y sbardun ar gyfer yr ymchwiliad oedd ymddiswyddiad Golygydd Tsieina y BBC, Carrie Gracie.

Cafodd hi wybod fod yna fwlch sylweddol yng nghyflogau dynion a menywod sy’n ennill dros £150,000 y flwyddyn gan y BBC.

Ond fe ddaeth i’r amlwg wedyn bod yna fwlch ar bob lefel o fewn y sefydliad.

Yn ôl adroddiad blynyddol y BBC eleni, mae’r bwlch cyflog wedi gostwng o 9.3% i 7.6%.