Mae hysbysebion nifer o gwmnïau ceir wedi cael eu gwahardd am annog gyrru anghyfrifol – gan gynnwys un sy’n dyfynnu o gerdd Dylan Thomas.

Ford, Nissan a Fiat Chrysler yw’r cwmnïau sydd wedi cael eu gwahardd.

Ford

Roedd dau o hysbysebion Ford yn dyfynnu cerdd enwog Dylan Thomas, ‘Do not go gentle’, sy’n dweud, ‘Rage, rage against the dying of the light’.

Roedd 12 o gwynion fod yr hysbyseb yn annog gyrru fel modd o ail-fyw teimladau blin.

Yn ôl y cwmni, roedden nhw am annog eu cwsmeriaid i feddwl am ryddid gyrru’r Ford Mustang yn hytrach na straen bob dydd yn y gweithle. Ond mae’r hysbyseb yn dangos y car yn cael ei yrru mewn modd gwyllt – er nad yw’n cael ei yrru dros 15 milltir yr awr, mewn gwirionedd.

Yn ôl yr Awdurdod Safonau Hysbysebu, roedd yr hysbyseb yn awgrymu bod gyrru’n “fodd o waredu ar deimladau o fod yn grac, sy’n peryglu’r gyrrwr, modurwyr eraill a cherddwyr”.

Nissan

Roedd hysbyseb ar gyfer Nissan yn dangos car yn gwyro cyn troi cornel i mewn i faes awyr.

Yn ôl y cwmni, diben yr hysbyseb oedd dangos technoleg fodern a nodweddion diogel y car Micra, ac fe bwysleision nhw fod y gyrrwr yn gyrru’n ofalus.

Ond yn ôl yr Awdurdod Safonau Hysbysebu, roedd yr hysbyseb yn awgrymu bod y gyrrwr wedi cyflymu mewn brys.

Fiat Chrysler

Yn ôl y gŵyn am Fiat Chrysler, roedd y car yn cael ei yrru ar gyflymdra uchel ac yn rasio yn erbyn car arall.

Dywedodd y cwmni fod y trac rhwng adeiladau uchel yn yr hysbyseb wedi cael ei ddylunio i ddynwared gêm geir i blant, gan dynnu sylw at greadigrwydd yn hytrach na chystadleuaeth rasio.

Ond dywedodd yr Awdurdod Safonau Hysbysebu fod yr hysbyseb yn anghyfrifol wrth ddangos gyrwyr yn rasio ac yn gyrru mewn modd anghyfrifol.