David Cameron
Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, wedi ymuno â arweinwyr pump o wledydd eraill y G20 gan alw am weithredu pendant er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng economaidd.

Daw hyn wrth i fynegai stoc y FTSE 100 yn Llundain syrthio ar y raddfa gyflymaf ers chwalfa ariannol 2008, heddiw.

Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, wedi arwyddo’r llythyr ar y cyd â arweinwyr Australia, Canada, Indonesia, Mecsico a De Korea.

Mae’r llythyr yn galw ar economiau mwyaf y byd i gydweithio er mwyn sicrhau nad yw’r byd yn syrthio i fagl dirwasgiad arall.

Dyw’r llythyr ddim wedi ei arwyddo gan yr Unol Daleithiau na gwledydd parth yr ewro. Mae’n galw am weithredu brys i ddatrys yr aniscrwydd dros ddyledion y gwledydd rheini.

“Bydd y llwybr allan o ddirwasgiad dwfn a hirdymor yn un anodd i sawl economi,” ebe’r llythyr sydd wedi ei gyfeirio at arweinydd presennol y G20, Arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarkozy.

“Fe fydd hynny yn ei dro yn cael effaith ar yr economïau sy’n parhau i ddatblygu.”