Mae tri phlismon wedi cael y sac, wedi i fyfyriwr gael ei barlysu yn dilyn ffrwgwd o flaen clwb nos bum mlynedd yn ôl.

Fe gafodd Julian Cole, 19, ei anafu’n ddifrifol ger Elements yn Bedford ar Fai 6, 2013, wedi iddo gael ei daflu allan o’r clwb a mynnu trio mynd yn ol i mewn i hawlio ei arian yn ol.

Yn ystod y ffrwgwd, fe gafodd ei daflu i’r llawr ddwywaith – unwaith gan fownsar, a’r eilwaith gan dri phlismon.

Dim ond wedi iddo gael ei gario i fan yr heddlu a’i yrru rhyw filltir i lawr y lôn i swyddfa heddlu Greyfriars, y darganfuwyd ei fod wedi torri ei wddw. Fe stopiodd ei galon, fe ddioddefodd niwed i’w ymennydd, ac mae bellach yn gorfod cael gofal 24 awr.

Mae’r cwnstabliaid Hannah Ross, Sanjeev Kalyan a Nicholas Oates o Heddlu Swydd Bedford, wedi’u canfod yn euog o gamymddwyn difrifol oherwydd iddyn nhw ddweud celwydd am gyflwr y dyn ifanc pan gafodd ei gario i’r fan, ac yna ei yrru o’r clwb i’r ddalfa.

Mae’r sarjant Andrew Withey hefyd wedi’i gael yn euog o gamymddwyn am fethu â gwneud profion digonol ynglyn â lles Julian Cole, ac mae wedi derbyn rhybudd terfynol.