Mae’r corff sy’n gyfrifol am drafnidiaeth gyhoeddus yn Llundain mewn “trafferthion ariannol difridol” oherwydd polisiau Maer Llundain. Dyna ddywed Ysgrifennydd Trafnidiaeth llywodraeth San Steffan, Chris Grayling.

Mae TfL, sy’n gyfrifol am redeg trenau, bysiau a rhai ffyrdd prifddinas Lloegr, yn wynebu colledion o £1bn am y flwyddyn 2018/19, meddai’r Torïaid, gan roi’r bai ar y ffaith bod Maer Llafur Llundain wedi rhewi’r arian y mae’n ei dderbyn trwy bris tocynnau.

Mae Chris Grayling hefyd wedi galw ar y Pwyllgor Dethol ar Drafnidiaeth yn San Steffan i edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd i TfL yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

“Y  problem fawr ydi’r ffaith bod prisiau tocynnau wedi’u rhewi,” meddai. “Os yw eich costau yn cynyddu bob blwyddyn, os ydych chi’n dal i roi arian i mewn er mwyn talu eich staff… mae’n broblem, wedyn, pan nad oes rhagor o arian yn dod i mewn trwy werthiant tocynnau.

“Dros gyfnod o amser, rydych chi’n sugno mwy a mwy allan o’r arian sydd ar gael i chi redeg y gwasanaeth,” meddai Chris Grayling wedyn. “Yr unig ffordd o wrthweithio hynny yw codi mwy o drethi…”

Mae TfL wedi dod dan bwysau o sawl cyfeiriad yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae llai o deithwyr yn defnyddio’r gwasanaethau. Mae Maer Llundain, Sadiq Khan, wedi rhewi prisiau teithiau dros y pedair blynedd diwethaf, a’r gred ydi fod hynny wedi costio £640m i’r corff.