Mae Ceidwadwyr yn yr Alban yn ceisio apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â chyhoeddi “dogfennau cyfrinachol” am ail refferendwm tros annibyniaeth.

Daw hyn ar ôl i gais rhyddid gwybodaeth gadarnhau bod 13 dogfen o’r fath wedi’u paratoi gan Lywodraeth yr Alban, ond bod gwaharddiadau yn golygu nad ydyn nhw’n gallu cael eu cyhoeddi.

Mae’r Ceidwadwyr bellach am gyflwyno apêl i’r Comisiynydd Gwybodaeth yn yr Alban yn gofyn iddo os yw’r gwaharddiadau hynny wedi’u gweithredu’n gywir.

Roedd y cais rhyddid gwybodaeth gwreiddiol yn galw am gyhoeddi “unrhyw gofnodion gan weision sifil neu ddogfennau sydd wedi’u darparu i weinidogion” ynghylch cynnal ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban yn 2017 a 2018.

“Llywodraeth anghyfrifol”

Yn ôl Maurice Golden, prif chwip y blaid Geidwadol yn Senedd yr Alban, mae’r “cofnodion cyfrinachol” hyn yn dangos bod annibyniaeth i’r Alban yn dal i fod ar y bwrdd gyda’r SNP, er bod y mater wedi’i ddatrys yn 2014.

“Dylai’r Cenedlaetholwyr fod wedi rhoi eu holl egni i wella ysgolion, ysbytai, seilwaith a’r economi,” meddai.

“Mae Llywodraeth yr Alban yn amlwg wedi credu ei bod yn angenrheidiol i weision sifil gynhyrchu’r cofnodion hynod o wleidyddol hyn.

“Dylen nhw gael eu cyhoeddi felly, fel rhan o ymrwymiad honedig yr SNP ar gyfer llywodraeth agored a thryloyw.”