Mae gwleidydd Llafur yn dweud y dylai’r rheiny o fewn y blaid Dorïaidd sydd wedi defnyddio “iaith erchyll” i sarhau eu harweinydd, Theresa May, gael eu henwi.

Mae Yvette Cooper, cyn-weinidog yr wrthblaid, yn dweud bod yr “iaith dreisgar” a ddefnyddiwyd gan wrthwynebwyr y Prif Weinidog dros y Sul yn annerbyniol.

Roedd yn cynnwys honiadau y dylai hi ei hun roi’r gyllell yn ei chefn, ac y dylai “ddod â’i rhaff ei hunan” i gyfarod gyda’r meinciau cefn ddydd Mercher nesaf (Hydref 24).

“Ni ddylai neb brofi’r math yna o iaith dreisgar sydd yn normaleiddio trais,” meddai Yvette Cooper ar raglen Today ar Radio 4.

“Mae hi’n hen bryd i ni wybod pwy yw’r Aelodau Seneddol Ceidwadol sy’n gwneud y bygythiadau hyn. Efallai y bydden nhw’n rhoi’r gorau i ddefnyddio’r math erchyll ac anghyfrifol o iaith yma, os y byddai eu henwau’n cael eu datgelu’n gyheoddus.”