Mae dynes wedi marw yn dilyn tân yn ei fflat yng ngogledd-orllewin Llundain, a’r gred yw mai ffrwydrad nwy oedd wedi ei achosi.

Cafwyd hyd i’r ddynes yn y fflat yn Harrow fore heddiw (dydd Sul, Hydref 21), ac fe fu’n rhaid achub tri o bobol, gan gynnwys babi.

Ymatebodd hyd at 70 o ddiffoddwyr tân i’r digwyddiad, wrth i lawr cynta’r adeilad ddymchwel yn rhannol o ganlyniad i ffrwydrad posib.

Bu’n rhaid i hyd at 40 o bobol gael eu symud o’u cartrefi yn oriau man y bore, a chafwyd hyd i gorff y ddynes yn ddiweddarach.

Mae’r heddlu a’r gwasanaeth tân yn cynnal ymchwiliad ar y cyd â’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.