Mae’r pregethwr eithafol, Anjem Choudary, wedi cael ei ryddhau o’r carchar.

Cafodd y pregethwr 51 oed ei garcharu yn 2016 ar ôl ei gael yn euog o annog cefnogaeth i’r grŵp eithafol y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Mae lle i gredu ei fod wedi gadael carchar Belmarsh yn Llundain yn gynnar bore ma (dydd Gwener, 19 Hydref).

Ar un adeg roedd yn ffigwr blaenllaw yn y grŵp al-Muhajiroun, sydd bellach wedi cael ei wahardd.

Mae Anjem Choudary wedi treulio hanner ei ddedfryd o bum mlynedd a hanner dan glo. Fe fydd yn cael ei oruchwylio’n ofalus am weddill ei ddedfryd. Mae disgwyl i’r heddlu ac MI5 fod ymhlith nifer o asiantaethau a fydd yn ei fonitro yn y gymuned.

Os yw’n torri unrhyw amodau ei drwydded fe fydd yn mynd yn ôl i’r carchar.